Menter Cwm Gwendraeth Elli
Hyrwyddo defnydd o’r iaith gymraeg yn ardal Llanelli a Chwm Gwendraeth.
🛍️☕️ Y Cwtsh
🧘♀️🌿Pafiliwn Penygroes
📞01269 871600
Rhif Elusen - 1021901
07/07/2026
I unrhyw un sydd gyda diddordeb mewn dartiau, dewch i'r Pafiliwn Penygroes ar ddyddiau Mawrth yn ystod y Gwyliau.
Croeso i blant ac oedolion.
Pafiliwn Penygroes
06/07/2026
🎪Digwyddiad cyntaf Gŵyl y Gwendraeth🎪
06/07/2026
CYHOEDDIAD: DARTIAU AM DDIM YN YSTOD GWYLIAU'R HÂF
Mae Taith y Dreigiau yn gynllun sydd wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Menter Cwm Gwendraeth Elli a Chyngor Tref Llanelli. Bydd Academi Dartiau Dreigiau Bigyn yn mynd ar daith am 6 wythnos yr Haf yma, yn cychwyn yng nghanolgan gymunedol Bigyn ar yr 22ain o Orffennaf ac yn dod i ben yng nghanolfan Selwyn Samuel ar y 26ain o Awst. Bob wythnos bydd chwaraewyr dartiau ifanc yn cael y cyfle i chwarae mewn cystadleuaeth lle byddai bob chwaraewr yn derbyn pwyntiau am pa mor bell mae nhw’n mynd ym mhob cystadleuaeth. Erbyn yr wythnos olaf bydd 3 categori lle bydd y plant yn cael eu rhannu fewn i 3 grŵp gwahanol i chwarae am 3 tlws – dan 10, hanner uchaf ac isaf tabl y gynghrair.
Rydym yn falch o allu cyhoeddi fod y gyfres yma o gystadleuthau’n hollol am ddim. Mae modd i chwaraewyr ddewis pryd a sawl cystadleuaeth mae nhw’n bwriadu ymuno gyda. Bydd hwn yn brofiad da iddyn nhw o fewn y gêm, bydden nhw hefyd yn cael digon o hwyl a’r cyfle i ymarfer eu Cymraeg oherwydd rydym yn annog y plant i alw allan bob sgôr yn Gymraeg.
I gofrestru: [email protected]
Llanelli Town Council
02/07/2026
01/07/2026
Clwb Haf 🌞
📍 Ysgol Gynradd Llangennech
🕰️ 8:30-5:30
💰 £28 y dydd / per day - Yn derbyn ‘Tax Free & Childcare Vouchers’
📧 [email protected] am fwy o manylion
Linc archebu : https://www.ycwtsh.com/booking-calendar/clwb-haf-llangennech-2?referral=service_list_widget
01/07/2026
Cymraeg yn y Gwlyptir 🏴🦆
Ymunwch a ni mewn 3 sesiwn AM DDIM i ddysgwyr. Cyfle wych i ymarfer y Gymraeg. Mae modd mynychu pob sesiwn neu dim ond un neu ddau.
Cofrestrwch cyn gynted a phosib. Mae'n bwysig nodi mai dim ond lle i 10 sydd ar gael ym mhob sesiwn.
Cofrestru: [email protected]
WWT Llanelli Wetland Centre
30/06/2026
Cyfle olaf heddi i archebu lle/last chance today to book a space 🫵 Maizie's Daizies Florist 🌹🏵️
29/06/2026
Dros y penwythnos fe wnaethon ni ddathlu ein treftadaeth gyda’n ffrindiau o Wlad Pwyl a’r Wcrain.
Diolch i bawb a helpodd i wneud hyn yn bosib.
24/06/2026
⚠️DIM DARTIAU HENO⚠️
Yn dilyn y rhybuddion am dywydd poeth, rydym wedi penderfynu i ohirio sesiwn darts yr wythnos yma. Mae iechyd a diogelwch pawb yn dod yn gyntaf.
Diolch am eich dealltwriaeth.
Llanelli Town Council | Dreigiau Bigyn
Click here to claim your Sponsored Listing.
Contact the business
Telephone
Website
Address
11-15 Coalbrook Road, Pontyberem
Swansea
SA155HU
Opening Hours
| Monday | 9am - 5pm |
| Tuesday | 9am - 5pm |
| Wednesday | 9am - 5pm |
| Thursday | 9am - 5pm |
| Friday | 9am - 4:30pm |
